P-04-673 – Galw ar bob Plaid Wleidyddol Gymreig i Gynnig Popeth yn Ddwyieithog
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Aaron Davies ar ôl casglu 48 Llofnod
Geiriad y ddeiseb
Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddeddfu y dylai pob plaid wleidyddol a'u hymgeiswyr sy'n sefyll ar gyfer etholiad (cyffredinol/cenedlaethol/lleol) gynnig popeth yn ddwyieithog (Cymraeg/Saesneg). Mae hyn yn golygu taflenni, cylchlythyrau, gwefannau (ac ati) ymgeiswyr unigol, grwpiau'r blaid a'r brif blaid.
Mae rhai pleidiau gwleidyddol eisoes yn cynnig y gwasanaeth hwn. Mae rhai ymgeiswyr hefyd yn cynnig y gwasanaeth hwn, ond nid pawb.
Rydym yn galw ar bob plaid wleidyddol i sicrhau bod gan siaradwyr Cymraeg yr un hawliau i gael gwybodaeth â'r rhai nad ydynt yn siarad Cymraeg.
Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad
· Preseli Sir Benfro
· Canolbarth a Gorllewin Cymru